Ymgynghoriad y Gronfa Gymunedol - rhowch eich barn ar ddyfodol ein blaenoriaethau ariannu

Rydym yn ymgynghori ar ein Cynllun strategol, a fydd yn nodi sut y byddwn yn dosbarthu ein harian rhwng 2002-2007. Cyfnod yr ymgynghoriad yw 13 Mehefin 2001 hyd 14 Medi 2001.

Mae'r dogfennau ar y dudalen hon yn nodi ein syniadau ar gyfer y Cynllun strategol. Mae'r ddogfen o wybodaeth gyffredinol yn esbonio fframwaith o'r hyn y bwriadwn; mae'r ddogfen arall yn nodi'r meysydd o flaenoriaeth y bwriadwn eu hariannu yng Nghymru. Os oes gennych feddalwedd Adobe Acrobat Reader cewch ddadlwytho'r dogfennau mewn portable document format (pdf).

Mae'r dogfennau hefyd ar gael gan eich swyddfa Cronfa Gymunedol leol.

Cewch anfon eich sylwadau drwy'r post neu'r ffacs i'n swyddfa gorfforaethol neu'r swyddfa Cronfa Gymunedol leol. Dylech ysgrifennu "Ymateb i Ymgynghoriad" ar yr amlen neu'r ffacs.

Mae'n bosib hefyd i anfon sylwadau drwy'r ebost at , neu

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad yng Nghymru ar y dudalen Newyddion yn yr adran Ein gwaith yng Nghymru.

I ddadlwytho'r dogfennau hyn ar ffurf Adobe Acrobat (pdf) , cliciwch ar y cysylltiadau isod gyda botwm dde y llygoden (PC) neu glicio ar y cysylltiadau tra'n pwyso'r botwm Ctrl (Mac) ac yna dewis "Save Target As.." neu Download link as.." o'r ddewislen.



Am wybodaeth bellach, cliciwch yma i fynd at y tudalennau ar Gymru