|
Mae 'r ffurflenni cais a ddadlwythir yn y fformat Adobe (pdf). Rhaid cael meddalwedd di-dal Adobe Acrobat Reader 4.0 neu uwch. Noder: Oherwydd cyfyngiadau Adobe Acrobat Reader, ni allwch gadw unrhyw wybodaeth a deipiwch ar y ffurflenni cais. Cliciwch yma am wybodaeth bellach i'ch helpu i lenwi'r ffurflenni cais. Cyn dadlwytho ffurflen gais, edrychwch as y pecyn cais priodol gan fod gwybodaeth y dylech ei ddarllen ynddo cyn i chi wneud cais. I ddadlwytho ffurflenni a phecynnau cais cliciwch y botwn de ar y cysylltiadau perthnasol islaw a dewisiwch "save as..." neu "save target as...". Prif grantiau Os ydych am i ni ariannu prosiect yn ymwneud a thir ac adeiladau (heblaw rhentu eiddo) dylech ddadlwytho ein llyfryn ceisiadau Eiddo sy'n dweud urthych sut i wneud cais
Grantiau i brosiectau sy'n costio hyd at £60,000
Grantiau Rhyngwladol Bydd y rhaglen grantiau rhyngwladol yn agor yn Ebrill 2002. Byddwn yn cyhoeddi grantiau'r rhaglen ddiwethaf ym mis Hydref 2001. Grantiau ymchwil Arian i Bawb Mae Arian i Bawb yn rhaglen grantiau i grwpiau bychain sy'n gwneud gweithgareddau celf, chwaraeon, treftadaeth, gwirfoddol a chymunedol ac sydd angen rhwng 500 a 5,000. Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan ddosbarthwyr y Loteri Genedlaethol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon rhoddir blaenoriaeth i grwpiau ag incwm o llai na 15,000. Yn yr Alban dim ond grwpiau ag incwm dan 15, 000 sy'n cael derbyn grant. Mae'n rhaid i grwpiau wario'r arian a chwblhau unrhyw weithgareddau o fewn blwyddyn i dderbyn y grant. Arian i Bawb Cymru Rhaglen grantiau bychain yw hon sy'n bartneriaeth rhwng y Gronfa Gymunedol, Cronfa Cyfleoedd Newydd a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Bydd y cynllun yn dyfarnu grantiau o rhwng 500 a 5,000 i grwpiau gan roi blaenoriaeth i grwpiau ag incwm isel. Mae'n rhaid i grwpiau wario'r arian a chwblhau unrhyw weithgareddau o fewn deuddeg mis o dderbyn y grant. Mae pecynnau cais y rhaglen hon ar gael trwy ffonio (Ffn testun: neu ar y wefan Arian i Bawb ar www.arianibawb.org.uk
|