Pwy sy'n cael gwneud cais

Nid oes rhaid i chi fod yn elusen gofrestredig i fod yn gymwys am grant.

I ymgeisio am grant mae'n rhaid i chi

  • Fod wedi eich sefydlu at ddibenion elusennol, llesiannol neu ddyngarol.
  • Feddu ar gyfansoddiad neu set o reolau, sy'n dynodi nodau eich mudiad a'r modd rydych yn gweithredu.
  • Fod ag o leiaf dri aelod ar eich pwyllgor rheoli.
  • Gael cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn enw eich mudiad sydd angen o leiaf dau lofnod ar bob siec.
  • Allu cyflwyno copi o'ch cyfrifon diweddaraf wedi eu cymeradwyo a'u dyddio a'u llofnodi. Os ydych yn gymdeithas newydd, - allu amcangyfrif eich incwm a chynlluniau gwariant.

Os ydi eich grwp yn rhan o gymdeithas fwy, gwelwch ein gwefan am fwy o fanylion neu cysylltwch a'ch swyddfa Cronfa Gymunedol.

Gallwch ddal mwy nag un grant ar y tro gennym, ond dim ond un grant i bob un prosiect. Gellwch wneud cais am grant arall i ddatblygu gwaith y proseict rydym ni yn ei ariannu yn ystod blwyddyn olaf eich grant.

Dadlwythwch ein arweiniad i Pwy sy'n gymwys

Mae'r daflen Pwy sy'n gymwys, yn esbonio'r meini prawf cymhwyster yn fanwl. Gellir dadlwytho y ddogfen hon yn y fformat Adobe portable document (pdf). I'ch galluogi i ddefnyddio'r ddogfen rhaid i chi gael meddalwedd Adobe Reader 4.0 neu uwch.