| Ceisio am grant | Gwybodaeth | Cyhoeddiadau | Ein gwaith yng Nghymru | Cymorth a chwilio | Swyddi |
| Ein rhaglenni grantiau | Prif grantiau | Grantiau i brosiectau sy'n costio hyd at 60,000 | Grantiau rhyngwladol | Grantiau ymchwil | Grantiau bychain | Dosbarthwyr eraill y Loteri | Pwy sy'n cael gwneud cais | Sut fyddwn ni'n penderfynu |
|
Rydym yn rhedeg nifer o raglenni syn addas i fudiadau a phrosiectau gwahanol. Disgrifir ein rhaglenni presennol yma. O dro i dro mae'n bosib y byddwn yn rhedeg rhaglenni eraill, byddwn yn hysbysebu y rhain ymlaen llaw.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Delwedd: Gwasanaeth Ffoaduriaid Gogledd Lloegr. O dan y cynllun Prif Grantiau, rhoddwyd 152,000 (1995), £154,362 (1999) and £209,911 (2000) i gynnal ffoaduriaid aci'w intergreiddio i'r gymuned leol.
Gwasanaeth Ffoaduriaid Gogledd Lloegr.
|
Prif raglen grantiauEin nodEin nod yw rhoi grantiau i grwpiau sy'n helpu cwrdd ag anghenion y bobl hynny sydd dan yr anfantais fwyaf mewn cymdeithas a gwella ansawdd bywyd yn y gymuned. I gwrdd 'n nod rydym am ariannu prosiectau sy'n helpu pobl neu gymunedau i oresgyn y problemau sy'n eu hatal nhw rhag chwarae rhan lawn mewn gweithgareddau economaidd, cymdeithasol neu gymunedol. Rydym yn arbennig o awyddus i gefnogi prosiectau sy'n helpu pobl i wynebu difreintedd sy'n ddifrifol, hir dymor, anodd i'w dargedu, neu'n gyfuniad o anghenion. Rydym hefyd am gefnogi prosiectau sy'n ceisio arbed neu leihau, cyn belled phosib, difreintedd yn y dyfodol. Rydym am i chi ddweud wrthym am y difreintedd mae eich prosiect yn ei dargedu a sut fydd eich prosiect yn helpu pobl i chwarae rhan lawn yn y gymuned. Byddwn hefyd yn ariannu prosiectau sy'n cefnogi a datblygu mudiadau ac adnoddau gwirfoddol a chymunedol, yn ogystal phrosiectau sydd o fantais uniongyrchol i bobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw fudiadau cymwys sy'n cefnogi a chynghori grwpiau gwirfoddol a chymunedol eraill. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau am brosiectau sydd yn eich helpu i ddatblygu eich grwp eich hun. Byddwn hefyd yn ariannu prosiectau sy'n cyflwyno dulliau newydd o weithio yn y sector gwirfoddol a chymunedol. Blaenoriaethau ariannu'r gwledydd a'r rhanbarthauMae gennym flaenoriaethau ariannu gwahanol i Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, rhanbarthau Lloegr a phrosiectau sy'n gweithio ar draws Lloegr gyfan. Mae'r rhain wedi eu rhestru yn y taflenni gwledydd a ranbarthau gwahanol, sy'n rhan o'r pecyn cais. Os nad yw eich prosiect yn cwrdd ag un o'n blaenoriaethau mae'n dal yn bosib i chi dderbyn grant. Nid oes blaenoriaethau ariannu ar gyfer prosiectau sydd yn gweithio ym mhob un o bedair gwlad y DG. Mae'n rhaid i chi gyflwyno cais i'r wlad neu ranbarth lle mae'r mwyafrif o bobl a fydd yn manteisio o'ch prosiect yn byw. Maint y grantY cyfanswm lleiaf gallwch geisio amdano yw 500. Os yw cyfanswm cost eich prosiect yn 60,000 neu llai, ac os nad ydych yn gwario dros 30,000 ar waith adeiladu, mae'n bosib y medrwch geisio am grant dan ein rhaglen i brosiectau o'r maint yma. Cliciwch yma am wybodaeth i'ch helpu i ddewis y rhaglen i wneud cais iddi. Sut i wneud cais(Ffn testun: ). Neu, gallwch ei gael o'r wefan hon yn yr adran Ffurflenni Cais .
|
|||||||||||||||||||||||||||||||
|
Delwedd: Hulme Community Computing. O dan y Prif Grantiau rhoddwyd £9,800. Mae'r ganolfan hon yn agor y drws i DG, addysg a hyfforddiant ac yn helpu pobl i ennill sgiliau newydd.
Hulme Community Computing. O dan y Prif Grantiau rhoddwyd 9,800. Mae'r ganolfan hon yn agor y drws i DG, addysg a hyfforddiant ac yn helpu pobl i ennill sgiliau newydd. |
Grantiau ar gyfer prosiectau sy'n costio hyd at 60,000Agorodd y rhaglen yma yn Ebrill 2001, yn yr Alban, De Orllewin Lloegr a Llundain. Rydym yn disgwyl agor y rhaglen mewn gwledydd a rhanbarthau eraill ar y dyddiadau a nodir isod. Ond dylech gysylltu 'ch swyddfa Cronfa Gymunedol leol yn nes at yr amser i weld os yw'r rhaglen yn agor yn eich ardal chi, neu clicio ar Ein gwaith yng Nghymru ar y wefan hon.
Pwy sy'n cael gwneud caisRydym am ariannu grwpiau cymwys phrosiectau:
Mae'r ffurflen gais ar gyfer y rhaglen hon yn llai na ffurflen y Prif raglen grantiau ac rydym yn gobeithio dod i benderfyniad am y grantiau ynghynt. Ein nod a'n blaenoriaethau ariannuMae'n nod ar gyfer y rhaglen hon yr un fath 'n Prif raglen grantiau ac mae blaenoriaethau ariannu'r gwledydd a'r rhanbarthau hefyd yn berthnasol. Sut i wneud cais(Ffn testun: ). Neu, gallwch ei gael o'r wefan hon yn yr adran Ffurflenni Cais .
|
|||||||||||||||||||||||||||||||
Rhaglen grantiau ymchwilMae'r Rhaglen grantiau ymchwil yn agor ar 11 Mehefin. Nid oes dyddiadau cau i'r ceisiadau. Rydym yn disgwyl dyfarnu grantiau ddwywaith y flwyddyn. Gan ddibynnu ar y nifer a'r math o geisiadau a dderbyniwn, rydym yn gobeithio dyfarnu grantiau cyntaf y rhaglen hon yng Ngaeaf 2001 a'r rhai nesaf yng Ngwanwyn 2002. Ein nodRydym am ariannu ymchwil o ansawdd uchel ym meysydd meddygol a chymdeithasol gan gynnwys iechyd a lles cymdeithasol. Byddwn yn ystyried ymchwil feddygol i amrywiaeth eang o heintiau ac anhwylderau ac ymchwil gymdeithasol i faterion cyfredol sy'n ymwneud iechyd a lles cymdeithasol. Mae'n rhaid i'r holl geisiadau ymchwil ddangos sut y maent yn cwrdd 'n nod o gynorthwyo y rhai mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas a gwella ansawdd bywyd yn y gymuned. Blaenoriaeth ariannuEin blaenoriaeth ariannu ar gyfer y flwyddyn gyntaf o leiaf fydd, hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol. Byddwn am wybod am y grwpiau o bobl fydd eich prosiect yn anelu at eu cynorthwyo, pam fod y bobl hynny wedi eu heithrio yn gymdeithasol a sut fydd eich prosiect yn eu helpu i gael eu cynnwys yn y gymdeithas. Rydym yn arbennig o awyddus i ariannu prosiectau sydd o fantais i'r grwpiau canlynol.
Os nad yw eich prosiect yn cwrdd 'n blaenoriaeth ariannu, mae'n dal yn bosib i chi dderbyn grant. Bydd eich cais yn cael ei asesu ar ei ddilysrwydd yn erbyn yr holl geisiadau eraill. Pwy sy'n cael gwneud caisMae'r rhaglen ar agor i bob mudiad cymwys sy'n gweithio yn y DG (gweler ein taflen Pwy sy'n gymwys? am fanylion). Rydym am ariannu grwpiau cymwys sydd phrofiad da mewn gwaith ymchwil, grwpiau gwirfoddol sy'n gallu dangos tystiolaeth o allu mewn ymchwil, a grwpiau gwirfoddol neu elusennol sy'n gweithio mewn partneriaeth phrifysgolion a chanolfannau ymchwil, lle mae'r gr ^ wp gwirfoddol neu elusennol yn bartner arweiniol ac yn ymgeisydd. Pecynnau caisGan ddibynnu ar y nifer a'r math o geisiadau a dderbyniwn, rydym yn gobeithio dyfarnu grantiau cyntaf y rhaglen hon yng Ngaeaf 2001 a'r rhai nesaf yng Ngwanwyn 2002. Cyfarfodydd Sut i wneud caisByddwn yn cynnal cyfarfodydd ar draws y DG i amlinellu ein Rhaglen grantiau ymchwil ac i roi gwybodaeth am y drefn ymgeisio ac asesu.Am fanylion pellach neu i archebu lle, ffoniwch (Ffn testun: ). Rydym yn awgrymu eich bod yn archebu lle pan fyddwch yn barod i ddechrau datblygu'r cynllun ymchwil, gan mai nifer cyfyngedig fydd yn gallu mynychu'r cyfarfodydd.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Delwedd: Plan International UK, India. O dan y Grantiau Rhyngwladol, rhoddwyd 164,290 i gynorthwyo'r tlawd yn Dharmaphi District, India.
|
Rhaglen grantiau rhyngwladolEin nodDan y rhaglen hon byddwn yn ariannu prosiectau datblygu sydd yn ymdrin ag achosion tlodi ac anghydraddoldeb ac yn gwneud gwelliant sylweddol i ansawdd bywyd rhai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn y byd. Byddwn yn cefnogi mudiadau gwirfoddol wedi eu lleoli yn y DG sy'n gweithio gyda phartneriaid tramor. Gallwn hefyd ariannu prosiectau addysg ddatblygol yn y DG. Sut i wneud caisByddwn yn ail agor y rhaglen hon yng Ngwanwyn 2002, pan fydd y pecynnau cais ar gael. Am y tro cyntaf bydd y rhaglen hon yn rhedeg yn barhaol, heb ddyddiad cau i geisiadau. Byddwn yn cyhoeddi'r grantiau dan y bumed raglen grantiau rhyngwladol ym mis Hydref 2001. Caeodd y llinell gais ar gyfer y rhaglen hon ar 26 Ionawr 2001.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||
|
Delwedd: Forge Community Partnership, Barnsley. O dan Gwobrall i Bawb, rhoddwyd £4,492 i helpu'r adfywiad economaidd a chymdeithasol yn yr ardal.
|
Gwobrau i Bawb (Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon)Cynllun grantiau ar gyfer grwpiau bach sy'n ymwneud chelf, chwaraeon, treftadaeth a gweithgareddau gwirfoddol a chymunedol ac sy'n chwilio am grant rhwng 500 a 5,000 yw Gwobrau i Bawb. Mae'n cael ei ariannu ar y cyd gan ddosbarthwyr y Loteri yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon rhoddir blaenoriaeth i grwpiau sydd ag incwm blynyddol o llai na 15,000. Yn yr Alban dim ond i grwpiau ag incwm blynyddol o llai na 15,000 byddwn yn dyfarnu grantiau. Maen rhaid i grwpiau wario'r arian a chwblhau unrhyw weithgareddau o fewn blwyddyn i dderbyn y grant. Sut i wneud cais
|
|||||||||||||||||||||||||||||||
|
Delwedd: Visually Impaired Peoples Club. O dan y cynllun Grantiau Bychain (Cymru), rhoddwyd 524 i ymestyn gweithgareddau'r grwp. Mae'r arian ar gyfer trafnidiaeth a ffioedd siaradwyr.
|
Cynllun grantiau bychain (Cymru)Dan y cynllun hwn byddwn yn dyfarnu grantiau rhwng 500 a 5,000 i grwpiau gwirfoddol a chymunedol lleol sydd ag incwm o llai na 15,000 y flwyddyn. Maen rhaid i grwpiau wario'r arian a chwblhau unrhyw weithgareddau o fewn chwe mis i dderbyn y grant. Sut i wneud caisLlenwch ffurflen gais a'i hanfon atom. Gallwch dderbyn pecyn cais trwy ffonio (Ffn testun: ). Neu, gallwch ei gael o'r wefan hon yn yr adran Ffurflenni Cais .
|
|||||||||||||||||||||||||||||||