|Ceisio am grant | Gwybodaeth | Cyhoeddiadau | Ein gwaith yng Nghymru | Cymorth a chwilio | Swyddi |
| Cymru | Swyddfa gorfforaethol |
|
Mae ein swyddfa wedi ei lleoli yng Nghanolbarth Cymru yn y Drenewydd, Powys. Wrth ddatganoli gallwn fod o fewn cyrraedd i bobl o bob ran o Gymru. Rydym yn gwasanaethu Cymru gyfan gan gynnwys 22 Awdurdod Lleol a 2.93 miliwn o bobl. Mae Cymru'n wlad amrywiol a'i phobl yn ymwybodol iawn o'u hunaniaeth ddiwylliannol. Rydym yn cynnig nifer o raglenni grantiau sy'n addas i brosiectau a mudiadau gwahanol. Mae grantiau gan Bwyllgor Cymru wedi amrywio o 500 i grwpiau bach lleol hyd at 850,000 ar gyfer prosiectau mawr neu hir dymor. Er nad oes uchafswm ar gyfer grantiau ar hyn o bryd, o Gwanwyn 2001 mae'n annhebygol y byddwn yn dyfarnu grantiau dros 300,000 heblaw mewn amgylchiadau eithriadol. Maint cyfartalog grant yng Nghymru yw 97,000. Nid ydym yn rhoi blaenoriaeth i ardaloedd penodol o Gymru ond rydym yn sylweddoli nad yw rhai ardaloedd yn cyflwyno cymaint o geisiadau ag eraill. Yn ogystal hyn os yw eich rhanbarth chi wedi bod yn llwyddiannus, nid yw hyn yn golygu na fyddwn yn dal i ystyried ceisiadau o'ch ardal chi. Cliciwch yma i weld Ffigyrau Allweddol ar y nifer o grwpiau a ariannwyd yn eich ardal chi o Gymru. Bydd ein staff yn barod i'ch cynorthwyo gyda unrhyw wybodaeth am ein rhaglenni presennol, cymhwyster a blaenoriaethau Cymru. Rydym yn cymryd rhan mewn seminarau a chyflwyniadau am ein rhaglenni grantiau a sut i ymgeisio. Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gyngor unigol arnoch, efallai bydd eich Cyngor Gwirfoddol Lleol yn barod i'ch helpu chi. Ffoniwch ni i dderbyn manylion am eich swyddfa cynghori leol.
|