| Ceisio am grant | Gwybodaeth | Cyhoeddiadau | Ein gwaith yng Nghymru | Cymorth a chwilio | Swyddi |
| Gwybodaeth recriwtio | Swyddi gwag | Pecyn cais
|
Delwedd: National Centre for Volunteering. Dyfarnwyd £134,988 o dan gynllun y Prif grantiau.
National Centre for Volunteering.
Dyfarnwyd £134,988 o dan y Prif raglen grantiau.
|
Gwybodaeth Recriwtio
Y Gronfa GymunedolNi yw'r corff dyfarnu grantiau annibynnol a sefydlwyd gan y Senedd i roi cyfran o arian y Loteri Genedlaethol i elusennau a mudiadau tebyg. Ein Pwyllgorau ar gyfer Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon sy'n gyfrifol am benderfyniadau grantiau yn eu hardaloedd hwy, gan adlewyrchu'r blaenoriaethau a'r diwylliant lleol. Mae swyddfeydd gwladol yng Nghaeredin, Glasgow, Belfast a'r Drenewydd. Ar gyfer Lloegr mae swyddfeydd rhanbarthol yn Llundain, Guildford, Exeter, Birmingham, Caergrawnt, Nottingham, Warrington, Leeds, Newcastle a Chaerlwr (ein pencadlys yn Lloegr). Mae ein Prif Weithredwr wedi ei leoli yn ein swyddfa gorfforaethol yn Llundain. Mae'r tm rheoli yn cynnwys pum cyfarwyddwr corfforaethol a phedwar cyfarwyddwr gwladol. Mae 17 Aelod o'r Bwrdd, sy'n gyd-gyfrifol am ddatblygu polisi, cyllido a rhediad cyffredinol y sefydliad. Am ein bod yn gorff cyhoeddus anadrannol, a adnabyddir fel Cwango, ac er nad yw ein staff yn weision sifil, mae ein tl a'n hamodau yn cael eu rheoli gan drefniadau cyffredinol y Gwasanaeth Sifil. Yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yw ein hadran nawdd, a'u gwaith hwy, dan ddeddf y Loteri, yw cymeradwyo ein hadolygiadau staffio a chyflogaeth yn flynyddol a'n darpariaeth o gyflog ac amodau. Lle mae arian y Loteri'n mynd
Arian i'r achosion daRydym yn un o chwe sefydliad sy'n roi arian i achosion da. Y lleill yw: Cyngor y Celfyddydau, y Cyngor Chwaraeon, Cronfa Dreftadaeth Genedlaethol, Comisiwn y Mileniwm a'r Gronfa Cyfleodd Newydd. Polisi cyflogiByddwn yn sicrhau fod gan ein staff: gweithle diogel ac iach; cydnabyddiaeth deg; amodau teg; cyfle i ddatblygu gyrfa; hyfforddiant; a chyfle cyfartal. Yn eu tro, yr ydym yn gofyn am: gwaith o safon uchel; cwrteisi, effeithiolrwydd a thegwch wrth ddelio phob un o'n cwsmeriaid a'i gilydd; a pharch at gyfle cyfartal. Cyfleoedd cyfartalRydym wedi ymrwymo'n adeiladol i gydraddoldeb ac ni fyddwn yn trin pobl yn annheg. Mae hyn yn wir yn achos pawb sy'n ceisio am waith a rhai sydd wedi eu cyflogi gennym ym mhob rhan o'n gwaith. Mae gennym Grup Cynghori Cydraddoldeb a fframwaith Cynllunio Gweithredu Cydraddoldeb er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu hyn. Rydym yn derbyn ceisiadau ar ffurfiau eraill gan ymgeiswyr ag anableddau, er enghraifft CV, tp sain, print bras neu ar ddisg cyfrifiadurol. Hyfforddiant a datblygiadRydym wedi ymrwymo i ddatblygiad ein holl staff. Sylweddolwn fod hyfforddiant yn bwysig i waith effeithiol ac effeithlon. Rydym yn cydnabod yr angen i gefnogi datblygiad gyrfa felly rydym yn darparu pum diwrnod o hyfforddiant ar gyfartaledd bob blwyddyn i staff. Mae gennym hefyd gynllun sy'n talu 100 bob blwyddyn at ddatblygiad personol. Cyflogau cychwynnol a graddfeyddMae gennym bedair graddfa ar gyfer ein staff:
Rydym yn hysbysebu swyddi ar raddfa ac ystod cyflog arbennig. Fe arfer byddwn yn cynnig y swydd ar y pwynt isaf ar yr ystod, heblaw fod y panel cyfweld yn penderfynu bod gan yr ymgeisydd gryfderau neu lefelau profiad eithriadol. Mewn achosion felly, mae'n bosib i ni gynnig hyd at 5% yn uwch na lefel cyflog y swydd flaenorol, cyn belled nad yw yn uwch na'r cyflog uchaf ar gyfer y swydd. Cynnydd tlBydd unrhyw gynnydd mewn cyflog yn ddibynnol ar berfformiad. Unwaith y cewch eich penodi gall eich cyflog gynyddu'n flynyddol o ganlyniad i'n cynllun adolygu perfformiad. Mae gan staff parhaol hawl i adolygiad os ydynt wedi bod yn y swydd am chwe mis erbyn 1 Ebrill. Mae y cynllun hwn yn seiliedig ar osod targedau a thasgau pwysig, sydd wedyn yn cael eu hadolygu yn flynyddol yn ystod adolygiad perfformiad. Mae y cynllun yn cynnwys tair safon o berfformiad:
Fel rheol, mae y rhan fwyaf o bobl yn derbyn cydnabyddiaeth cwbl effeithiol. Mae maint y cynnydd cyflog cyffredinol yn adlewyrchu polisi cyflogaeth y sector cyhoeddus. PensiynauRydym yn aelod o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sydd yn anghyfranogol, mynegrifol ac wedi ei asesu fel gwerth tua 15% o'r cyflog. Mae'n cael ei ystyried ar y cyfan fel un o'r cynlluniau pensiwn gorau yn y wlad. Os ydych yn eithrio eich hun o'r cynllun pensiwn fe dalwn 3% o'ch cyflog i gynllun pensiwn preifat. Nid yw'r cynllun pensiwn ar y cyfan ar gael ar gyfer staff dros-dro neu ar gytundeb cyfnod penodol. Oed ymddeol y Gronfa Gymunedol yw 60 ac felly ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan bobl sydd dros 60 oed. Buddiannau eraillMae ein darpariaeth ar gyfer gwyliau blynyddol wedi ei osod ar 25 diwrnod sy'n cynyddu gyda'r gwasanaeth.. Mae gennym gynllun oriau gwaith hyblyg gwirfoddol. Rydym yn darparu benthyciadau tocynnau tymhorol. Mae gennym Raglen Gynorthwyo Staff (RhGS) sy'n cynnig gwasanaeth cynghori a chyfeirio proffesiynol, cwbl annibynnol, cyfrinachol, heb fod ar y safle, rhad ac am ddim i bawb a gyflogir gennym. Mae'r llinell gymorth RhGG ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae'r holl amodau wedi eu cynnwys mewn Llawlyfr Staff sy'n cael ei gyflwyno i bob aelod o staff wrth eu penodi ac yn cael ei adolygu yn flynyddol. Mae'n amodau staff yn debyg iawn i rai'r gwasanaeth sifil Datgelu diddordebauFel corff cyhoeddus sy'n dyfarnu grantiau mae gennym gd moesol. Pe bai chi'n llwyddo i gael swydd gyda ni, bydd yn rhaid i chi ddatgelu unrhyw ddiddordeb mewn mudiadau a fedrai wneud cais i'r Gronfa Gymunedol am grantiau neu gytundeb am waith. Ni chewch gynorthwyo mudiadau yr ydych chi yn ymwneud hwy, i gyflwyno ceisiadau. Byddwn yn cadw cofnod o'r diddordebau mewn cofrestr y gall y cyhoedd ei weld. Amddiffyn dataMae'r Gronfa Gymunedol yn dilyn egwyddor o gadw gwybodaeth berthnasol, cywir a chyfoes. Pan fyddwch chi'n llofnodi eich cais, rydych yn cytuno bod y Gronfa Gymunedol yn cael casglu gwybodaeth amdanoch chi ar gyfer: cyflogi staff; gweinyddu personol; monitro cyfle cyfartal; a sicrhau fod ein gweithgareddau ar gael i'r cyhoedd eu gweld. Byddwn yn defnyddio'r mwyafrif o'r wybodaeth i bwrpas ystadegol yn unig. Bydd gennych hawl i weld y mwyafrif o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch yn unol threfniadau'r Gronfa Gymunedol a chyfreithiau perthnasol. GeirdaMae'n rhaid i ni dderbyn geirda gwaith boddhaol gan ddau ganolwr ac, yn unol chyfreithiau mewnfudo, bydd yn rhaid darparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DG (er enghraifft trwy ddarparu P45, P60 neu basport). Cyfnod prawfBydd yr holl staff parhaol ar brawf yn ystod chwe mis cyntaf eu penodiad.
|