| Ceisio am grant | Gwybodaeth | Cyhoeddiadau | Ein gwaith yng Nghymru | Cymorth a chwilio | Swyddi |

| Cymru | Swyddfa gorfforaethol |

Tim grantiau Cymru

Tim grantiau Cymru

Delwedd: Canolfan Deuluol Caerfyrddin. Prif raglen grantiau, Cymru. Llun: Gary Parker.

Newyddion diweddaraf
Ein tim grantiau
Crynodeb o Gynllun strategol Cymru
Cludiant cymunedol
Ystadegau allweddol i Gymru
Cyswllt
Cysylltiadau


Ymgynghoriad y Gronfa Gymunedol - rhowch eich barn am flaenoriaethau ariannu'r dyfodol

Mae system asesu'r Gronfa Gumunedol yn nodedig. Dyma'r ymgais orau a welwyd ym Mhrydain, ac yn l pob tebyg, yn unrhyw le yn y byd, i wneud penderfyniadau gwrthrychol ynglyn dyfarnu grantiau sy'n dal i gynrychioli polisau y dyfarnwr grantiau.

Luke FitzHerbert, The National Lottery Year Book,
The Directory of Social Change.

Ein datganiad o fwriad; i gynorthwyo y rhai hynny sydd dan yr anfantais fwyaf mewn cymdeithas a gwella ansawdd bywyd yn y gymuned, yw canolbwynt ein holl waith. Y ceisiadau sy'n llwyddo i gyrraedd y nod hyn yw'r rhai a fydd yn derbyn grantiau.

Wedi i chi ymgeisio am grant gan y Gronfa Gymunedol bydd Swyddog grant yn cysylltu chi er mwyn trafod eich cais. Fodd bynnag, nid y Swyddog grant sy'n penderfynu a fyddwch yn derbyn grant neu beidio. Byddant yn gwneud argymhelliad i Bwyllgor Cymru am ddilysrwydd y cais. Y Pwyllgor sydd yn gwneud y penderfyniad i ganiatu neu wrthod y grant.

Mae Pwyllgor Cymru yn cynnwys chwe aelod, tri sydd yn aelodau llawn o'r Bwrdd a thri aelod cyf-etholedig, sy'n sicrhau ystod eang o wybodaeth am wahanol rannau o Gymru ac adrannau amrywiol o fewn y sector gwirfoddol. Ceir cyflwyniad byr i'r Pwyllgor isod:

Elisabeth Watkins, Cadeirydd
Bargyfreithwraig yw Elisabeth Watkins sydd wedi gweithio ym Mhrydain a Bermuda. Mae'n ddyfarnwr mewnfudo ac yn Gadeirydd Panel Annibynnol Cymru i Adolygu Cwynion yn erbyn y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Mae wedi gweithio dros fudiadau gwirfoddol ym Mhacistan, Canada a Swasiland, ac yn gyn Gadeirydd Pwyllgor Rhyngwladol y Groes yn Vancouver, a Chadeirydd sylfaenol Hospis yn y Cartref, Swasiland. Jeff Carroll Ymddeolodd o Wasanaeth yr Heddlu fel Uwch arolygydd yn gyfrifol am faterion cymunedol.

Rhiannon Bevan
Rhiannon Bevan yw Cadeirydd Bwrdd Ymgyrch Cadw Cymru'n Daclus a Llywydd Cymdeithas Cynghorau Tref a Chymuned Cymru. Ym 1998 ymddeolodd fel pennaeth swyddfa Cymru o Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched. Mae Mrs Bevan yn gyn Gadeirydd Cyngor Defnyddwyr Cymru ac yn gyn aelod o'r Cyngor Safonau Darlledu, y Comisiwn Safonau Darlledu a Bwrdd Twristiaeth Cymru. Addysgwyd Mrs Bevan yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd.

Jeff Carroll
yw Cadeirydd presennol y Bwrdd dros Gyfrifoldeb Cymdeithasol; Esgobaeth Llandaf; aelod, Cyngor Cydraddoldeb Hiliol Caerdydd ar Fro; Aelod o bwyllgor. Clwb Rygbi Heddlu De Cymru; Is warden y Rheithor, plwyf Castell Nedd a Llantwit; Is gadeirydd o Gangen Morgannwg NARPO (National Assoc of Retired Police Officers), ac yn gyn aelod o bwyllgor codi arian Apl Ymchwil y Galon Syr Geraint Evans.

Aled Sin (Aelod cyf-etholedig)
Trefnydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn y De. Bu'n cynorthwyo i drefnu'r Eisteddfod ers 1995, a gweithiodd am un mlynedd ar ddeg fel Pennaeth Gwersyll yr Urdd, Glanllyn. Mae ganddo gysylltiadau ag Ymddiriedolaeth Tryweryn, Pwyllgor Neuadd Bentref Llanuwchlyn Phwyllgor Dyfodol Penllyn.

Margaret Dennis (Aelod cyf-etholedig)
Ymgynghorydd Cysylltiadau Cyhoeddus sy'n gweithio ar ei liwt ei hun, mae'i chleientau yn cynnwys Tenovus, y Gymdeithas Er Atal Creulondeb i Blant ac Ymchwil Lewcemia. Mae'n Gydlynydd Dadl yr Oed Cymru, Cadeirydd Cruse Bereavement Care Caerdydd a'r Fro ac yn Gadeirydd Medialink.

Dr Glyn Williams (Aelod cyf-etholedig)
Pennaeth Canolfan Ymchwil Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n gymdeithasegydd a bu'n ddarlithydd ym mhrifysgolion Bangor a San Fransisco, cyhoeddodd amryw o erthyglau a llyfrau. Bu'n aelod o bwyllgorau yn y Comisiwn Ewropeaidd, Academi Frenhinol Iwerddon, ESRC, yr SRC a'r Academi Brydeinig.