| Ceisio am grant | Gwybodaeth | Cyhoeddiadau | Ein gwaith yng Nghymru | Cymorth a chwilio | Swyddi |
| Dadlwytho ein logo | Astudiaethau achos | Dim ond y gwir | Datganiadau i'r wasg | Grantiau'r presennol a'r gorffennol | Newyddion | Cysylltiadau defnyddiol | Aelodau'r Bwrdd | Tm rheoli |
Ers sefydlu Cronfa Gymunedol ym 1995, mae rhywfaint o anwybodaeth wedi datblygu ynglyn 'r Gronfa Gymunedol a'i waith. Edrychwn ar rai o'r anwireddau a rhown y ffeithiau cywir isod.
Anwiredd:
Camelot sy'n dosbarthu'r arian i'r achosion da.
Ffaith:
Camelot sy'n rhedeg y Loteri. Mae Cronfa Gymunedol yn dosbarthu 4.7 ceiniog o bob punt sy'n cael ei gwario ar y Loteri i elusennau a grwpiau gwirfoddol gan gynorthwyo y rhai mwyaf difreintiedig a gwella ansawdd bywyd.
Anwiredd:
Roedd newid i'r Gronfa Gymunedol yn gamgymeriad costus.
Ffaith:
Roedd yn rhaid i ni newid am fod Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yn ddryslyd, biwrocrataidd ac anghyfeillgar. Rydym am fod yn agosach atoch ac yn effeithiol. Rydym am i fwy o bobl wybod ein bod ni'n rhoi arian Loteri i grwpiau cymunedol. Cost yr enw newydd oedd 130,000. Mae'n gost cymharol fychan i wneud ein nod yn gliriach i ragor o bobl. Gwnaethom lawer o ymchwil i sicrhau bod yr enw newydd yn hawdd i'w ddeall a'i adnabod.
Anwiredd:
Beirniadodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Gronfa Gymunedol am wastraffu arian - dyma wastraff pellach.
Ffaith:
Cyflwynodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus adroddiad cadarnhaol a defnyddiol. Nododd aelodau'r pwyllgor fod y mwyafrif llethol o'n grantiau yn cynorthwyo'r rhai mwyaf difreintiedig. Roeddent yn ymwybodol bod nifer fychan o'r grantiau heb eu cwblhau ar amser neu wedi methu cyflawni'r holl ganlyniadau. Ond roedd hyd yn oed y prosiectau hynny wedi cynorthwyo'r difreintiedig. Rydym wedi gweithredu nifer o argymhellion y Pwyllgor gan gynnwys cymryd camau i fod yn llai biwrocrataidd, a dyna un o'r rhesymau dros yr enw newydd.
Anwiredd:
Mae nifer o Gronfeydd Cymunedol ar hyd a lled y wlad. Rydych wedi achosi rhagor o ddryswch drwy greu Cronfa Gymunedol arall.
Ffaith:
: Mae'r cronfeydd cymunedol presennol yn fudiadau bach lleol. Bydd yn hollol glir mai ni yw'r unig gorff cenedlaethol sy'n derbyn arian o'r Loteri ac sy'n targedu elusennau a grwpiau cymunedol. Bydd ein hunaniaeth ni yn cael ei ledu drwy'r wlad, yn wahanol i'r cronfeydd cymunedol lleol.
Anwiredd:
Rhoddodd Gronfa Gymunedol 78 miliwn i't Ty Opera Cenedlaethol a 12 miliwn i brynu papurau Churchill.
Ffaith:
Cyrff eraill y loteri a ddosbarthodd yr arian hynny. Y grant mwyaf erioed i'r Gronfa Gymunedol ei ddosbarthu yw 1.4 miliwn i Clybiau Ieuenctid DG. Mae grant cyfartalog gan Gronfa Gymunedol o gwmpas 50,000.
Anwiredd:
Nid yw'r Gronfa Gymunedol yn rhoi arian tuag at ymchwil feddygol.
Ffaith:
Mae'r Gronfa Gymunedol wedi rhoi dros 16 miliwn i brosiectau ymchwil meddygol.
Anwiredd:
Mae'r Gronfa Gymunedol ond yn rhoi arian i achosion sy'n wleidyddol gywir ac yn anwybyddu elusennau mwy poblogaidd a chanolog.
Ffaith:
Mae pob cais yn cael ei asesu yn l ei deilyngdod. Mae'r mwyafrif o'r elusennau mwyaf adnabyddus wedi dernyn grant gan Gronfa Gymunedol, yn ogystal grwpiau llai sy'n helpu hoywon, pobl yn chwilio am loches, rhent lanciau, puteiniaid a phobl o leiafrifoedd ethnig. Teilwng, ie. Gwleidyddol gywir, na.
Anwiredd:
Gwrthododd Gronfa Gymunedol gais gan St Dunstan's - yr elusen i gyn filwyr a gwragedd dall - am nad ydynt yn cefnogi mudiadau i hen filwyr.
Ffaith:
Nid yw hyn yn wir. Rydym wedi rhoi arian sylweddol i grwpiau o hen filwyr. Gwrthodwyd St Dunstan am fod ganddynt 44 miliwn yn y banc. Nid yw'r Gronfa Gymunedol yn gwneud elusennau cyfoethog yn gyfoethocach
Anwiredd:
Mae grantiau'r Gronfa Gymunedol yn cymryd lle arian gan y Llywodraeth.
Ffaith:
Ni fyddwn yn ariannu unrhyw brosiect sy'n defnyddio grant gan Gronfa Gymunedol i gymryd lle arian y llywodraeth ganol neu leol neu'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.
Anwiredd:
Rhoddodd Gronfa Gymunedol 300,000 i Indiaid o Beriw fagu moch cwta tew.
Ffaith:
Dyfarnwyd 30,000 i annog ffermwyr yn yr Andes i ddefnyddio dulliau amaethu traddodiadol i gynyddu cynnyrch ac amddiffyn yr amgylchedd. Dim ond 2,000 a ddefnyddiwyd i fagu moch cwta, sy'n fwyd traddodiadol yn yr Andes.
Anwiredd:
Dyfarnodd Gronfa Gymunedol grant i roi gwres canolog a chawodydd i foch ar fferm ddinesig.
Ffaith:
Roedd y grant yn caniatu i blant anabl weld yr anifeiliaid ar y fferm ddinesig ar gyrion Sheffield. Defnyddiwyd ychydig o'r arian i wella cytiau'r moch gan gynnwys gwresogi ac ymolchi.
Anwiredd:
Dim ond elusennau sydd wedi eu cofrestru gall dderbyn grant gan Gronfa Gymunedol.
Ffaith:
Cyn belled bod y grwp yn gallu dangos eu bod wedi ei sefydlu at ddiben elusennol, maent yn gymwys i ymgeisio. Hyd yma mae 30 y cant o'r holl grwpiau a dderbyniodd grant gan Gronfa Gymunedol heb eu cofrestri fel elusen.
Anwiredd:
Bydd y Gronfa Gymunedol ond yn rhoi grant os yw'r ymgeisydd hefyd yn barod i gyfrannu rhywfaint o'r arian.
Ffaith:
Na. Mae'r Gronfa Gymunedol yn ariannu 100% o gostau'r prosiect.
Anwiredd:
Nid yw'r Gronfa Gymunedol yn dosbarthu llawer o arian - mae tipyn ohono yng nghyfrif banc y Gronfa Gymunedol.
Ffaith:
Mae'r Gronfa Gymunedol wedi dyfarnu dros 1.4 biliwn. Mae wedi rhoi grantiau hyd eithaf ei gyllid. Mae rhai grantiau dros ddwy neu dair blynedd ac fe delir y grant ar hyd oes y prosiect.
Anwiredd:
Mae gan y Gronfa Gymunedol ddigonedd o arian a bydd yn rhoi arian i'r mwyafrif o'r ymgeiswyr.
Ffaith:
Mae'n rhaid i bob pwyllgor dyfarnu wrthod llawer o geisiadau da am nad oes digon o arian yn eu cyllid.
Anwiredd:
Nid yw'r Gronfa Gymunedol yn rhoi grantiau ar gyfer cyflogau.
Ffaith:
Na, mae'r Gronfa Gymunedol yn talu am gyflogau - grantiau refeniw - ac am adeiladau ac offer - grantiau cyfalaf.
Anwiredd:
Mae'r ffurflen yn gymhleth ac mae angen cynghorwyr proffesiynol i'w llenwi
Ffaith:
Mae'r Gronfa Gymunedol yn gwrthwynebu i grwpiau ddefnyddio cynghorwyr allanol i lenwi'r ffurflen. Rydym yn ceisio'i gwneud hi mor syml phosib, er wrth gwrs mae'n rhaid i ni ofyn am lawer o wybodaeth er mwyn sicrhau fod y penderfyniadau iawn yn cymryd lle ac er mwyn gallu monitro lle aeth yr arian.
Anwiredd:
Mae'n amhosib i grwpiau bach dderbyn symiau bach o arian.
Ffaith:
Mae Cynllun grantiau bychain yng Nghymru a Gogledd Iwerddon a Chynllun Gwobrau i Bawb yn yr Alban a Lloegr sy'n dosbarthu grantiau rhwng 500 a 5,000 i grwpiau ag incwm blynyddol dan 15,000. Mae'r ffurflen gais yn symlach.