| Ceisio am grant | Gwybodaeth | Cyhoeddiadau | Ein gwaith yng Nghymru | Cymorth a chwilio | Swyddi |
| Dadlwytho ein logo | Astudiaethau achos | Dim ond y gwir | Datganiadau i'r wasg | Grantiau'r presennol a'r gorffennol | Newyddion | Cysylltiadau defnyddiol | Aelodau'r Bwrdd | Tm rheoli|
9 Ebrill 2001
Bwrdd Elusennau yn newid i'r Gronfa Gymunedol ac yn gwneud hi'n haws i gael arian Loteri
O'r 9 Ebrill bydd Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yn newid ei enw i'r Gronfa Gymunedol, gyda'r is bennawd 'Arian loteri yn gwneud gwahaniaeth'. Byddant hefyd yn cyflwyno rhaglenni grantiau newydd a threfniadau ymgeisio newydd i'w gwneud hi'n haws i geisio am arian Loteri.
Dywedodd Diana Brittan, Cadeirydd y Gronfa Gymunedol: "Saith mlynedd yn l roeddem yn sefydliad newydd sbon a heb roi ceiniog o arian i neb. Erbyn hyn rydym wedi rhoi bron i ddwy biliwn o bunnoedd i dros 35,000 o grwpiau elusennol ar draws y DG. Rydym wedi newid llawer ers hynny a heddiw byddwn yn newid mwy fyth. Mae'n henw newydd yn crynhoi yr hyn a wnawn: rhoi arian i gymunedau ac rydym am ddehongli cymunedau yn y modd ehangaf bosib. Mae'r is bennawd newydd yn crynhoi ffynhonnell yr arian, a'r hyn y gobeithiwn y bydd yn ei gyflawni.
"Nid yw newid enw ac is bennawd yn unig yn datrys problemau. Nid yw'n datrys y broblem o gynorthwyo'r cymunedau mwyaf anghenus sy'n ei chael hi'n anodd i geisio am ein harian. Gyda'r grwpiau hynny mewn golwg rydym wedi gwneud y drefn ymgeisio'n haws a chyflwyno dwy raglen grantiau newydd. Rydym am estyn ymhellach i gymunedau, pob cymuned, ond yn arbennig y rhai sy'n ynysig neu'n fregus neu lle mae cyfle yn brin; gobeithiwn y bydd ein dull newydd yn gweithio."
Mae'r hunaniaeth newydd wedi ei ymchwilio a'i brofi gan y cyhoedd, y sector gwirfoddol, staff a grwpiau eraill. Cost y gwaith ymchwil, datblygu a dylunio oedd £130,000.
Bydd y Gronfa Gymunedol yn cyflwyno dwy raglen newydd heddiw: Prif raglen grantiau a Grantiau i brosiectau yn costio hyd at £60,000.
Mae'r ffurflenni cais i'r ddwy raglen yn fyrrach, a bydd y ceisiadau yn cael eu hasesu yn erbyn llai o feini prawf. Ac am y tro cyntaf byddwn yn gofyn sut mae'r prosiectau yn cymharu blaenoriaethau ariannu y Gronfa Gymunedol yn y gwledydd a'r rhanbarthau.
Cyflwynir y rhaglen Grantiau i brosiectau yn costio hyd at 60,000 yn yr Alban, Llundain a De Orllewin Lloegr heddiw a bydd yn ymestyn i Gymru yng
Ngorffennaf 2001 a gweddill y DG yn ystod 2001 a 2002. Byddwn yn dod i benderfyniad ar grantiau rhaglen hon ynghynt na'r Prif raglen grantiau - hyd at bedwar mis yn hytrach na phum mis.
Ym mis Gorffennaf 2001 bydd y Gronfa Gymunedol yn agor Rhaglen grantiau ymchwil newydd ar gyfer ymchwil feddygol ac ymchwil gymdeithasol i iechyd a lles cymdeithasol. Bydd y Rhaglen grantiau rhyngwladol yn ail agor yng Ngwanwyn 2002, ac am y tro cyntaf bydd yn rhedeg yn barhaol heb ddyddiadau cau.