| Ceisio am grant | Gwybodaeth | Cyhoeddiadau | Ein gwaith yng Nghymru | Cymorth a chwilio | Swyddi |

| Dadlwytho ein logo | Astudiaethau achos | Dim ond y gwir | Datganiadau i'r wasg | Grantiau'r presennol a'r gorffennol | Newyddion | Cysylltiadau defnyddiol | Aelodau'r Bwrdd | T�m rheoli |

Research grants programme case studies

Enghreifftiau o'r Rhaglen grantiau ymchwil

Prosiect ymchwil gyda 'bechgyn Ely' o Gaerdydd o'r 1970au


Gallai profiadau criw o fechgyn a dyfodd fyny ar stad Elai yng Nghaerdydd yn y 1970au helpu i wella ansawdd bywyd pobl ifanc yn y gymuned heddiw. Roedd y criw yn cael eu adnabod fel 'bechgyn Elai' (Ely boys) pan wnaethon nhw gymryd rhan yn yr ymchwil y tro cyntaf pan yn eu arddegau. Mae prosiect dilynol ar waith gan ymchwilwyr cymdeithasol o Brifysgol Caerdydd, sy'n cael ei gefnogi gan grant ymchwil o'r Gronfa Gymunedol.

Mae'r ymchwilwyr yn darganfod mwy am brofiadau bywyd ac agweddau bechgyn Elai ar �l mwy nag 20 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae nifer ohonynt wedi parhau i fyw ar y st�d. Bydd yn edrych ar ba mor iachus mae eu ffyrdd o fyw wedi bod yn nhermau cymdeithasol, seicolegol, amgylcheddol a meddygol, gan ystyried pob agwedd, o waith a pherthynas deuluol i'r camddefnydd o gyffuriau ac alcohol. Y nod yw i weld faint o le sydd ar gyfer mentrau newydd i wella ansawdd bywyd ar gyfer cymuned heddiw - yn enwedig ar gyfer pobl ifanc.

Caiff y prosiect ei weithredu gan yr Ysgol Addysg Gymdeithasol a Gweinyddol ym Mhrifysgol Caerdydd ar ran Prosiect Cymuned a Ieuenctid Trelai. Dyfarnwyd grant o �23,900 ym Mehefin 1999 o dan raglen grantiau ymchwil iechyd a chymdeithasol y Gronfa Gymunedol.

Mae Prosiect Cymuned a Ieuenctid Trelai yn trefnu amrywiaeth o fentrau yn ymwneud ag addysg, hyfforddiant, iechyd a hamdden ac atal troseddu ar y st�d, gan gynnwys Prosiect Ieuenctid y Dusty Forge mewn hen dafarn.

 

Astudiaeth o gamddefnydd sylweddau gan bobl yn eu arddegau mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru


Darganfod mwy am y camddefnydd o alcohol, tybaco a chyffuriau eraill gan bobl ifanc yw nod ymchwil gan y Sefydliad Iechyd Gwledig, gyda chefnogaeth gan grant ymchwil y Gronfa Gymunedol.

Bwriad y gwaith yw i wella dealltwriaeth o unigolion a chymunedau sydd mewn perygl. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod camddefnydd o sylweddau yn cynyddu ymysg pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig.

Bwriad y gwaith yw i wella dealltwriaeth o unigolion a chymunedau sydd mewn perygl. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod camddefnydd o sylweddau yn cynyddu ymysg pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig.

Mae pedair cymuned gyda chefndiroedd diwylliannol a chymdeithasol gwahanol yn cymryd rhan yn yr ymchwil, sydd yn cynnwys grwpiau ffocws gyda rhieni a phobl ifanc. Bydd y canlyniadau yn darparu gwybodaeth i helpu asiantaethau statudol a gwirfoddol i dargedu eu gwaith yn fwy effeithiol.

Dyfarnwyd �79,237 i'r Sefydliad Iechyd Gwledig ar gyfer y prosiect ym Mehefin1999 o raglen grantiau ymchwil iechyd a chymdeithasol y Gronfa Gymunedol.