Cludiant cymunedol

Delwedd: Canolfan Deuluol Caerfyrddin. Prif raglen grantiau, Cymru. Llun: Gary Parker.

Newyddion diweddaraf
Ein tim grantiau
Crynodeb o Gynllun strategol Cymru
Cludiant cymunedol
Ystadegau allweddol i Gymru
Cyswllt
Cysylltiadau


Ymgynghoriad y Gronfa Gymunedol - rhowch eich barn am flaenoriaethau ariannu'r dyfodol

Blaenoriaeth y Gronfa Gymunedol yng Nghymru

Mae Pwyllgor Cymru, sydd yn gwneud y penderfyniadau terfynol ar ba geisiadau i'w hariannu, wedi cytuno i roi blaenoriaeth i geisiadau sy'n cynorthwyo y rhai hynny sy'n dioddef oherwydd prinder cludiant. Mae wedi clustnodi hyd at 3 miliwn y flwyddyn i ariannu Cynlluniau Cludiant Cymunedol. Nid oes ffurflenni cais gwahanol ac fe asesir y prosiectau yn yr un modd cheisiadau eraill. Fodd bynnag, pan fydd prosiect o'r math yma yn cael ei argymell i'w ariannu, byddwn yn ychwanegu 3 phwynt ychwanegol i'w sgr asesu, a fydd yn cynyddu'r siawns o dderbyn grant


Olwynion yn troi yn y gymuned

Image: West Glamorgan Community Transport. Main grants award, Wales.

Mae medru teithio a chyrraedd llefydd yn bwysig i bob un ohonom ni. Y trip siopa wythnosol, yr ymweliad 'r meddyg, noson yn y pictiwrs neu daith i lan y mr. Mae llawer ohonom yn eu cymryd nhw i gyd yn ganiataol. Ond ym mhob rhan o Gymru mae pobl yn wynebu problemau dyddiol o ran teithio o'u cartrefi i lefydd y maen nhw'n dymuno neu'n gorfod bod.

Felly sut mae eu cynorthwyo nhw? Un dewis yw i ddarparu gwasanaeth Cludiant Cymunedol. Mae syniadau, cyngor a chymorth ar gyfer pobl sydd am sefydlu cynllun neu ar gyfer rhai sydd eisoes yn cynnig y fath wasanaeth ar gael gan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol ar . Un enghraifft yw Cludiant Cymunedol Gorllewin Morgannwg. Mae'n rhedeg cynllun llwyddiannus sy'n cael ei arwain gan y gymuned ac yn cynorthwyo miloedd o bobl bob blwyddyn i deithio, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywydau.

A'r newyddion da yw fod arian ar gael ar gyfer grwpiau Cludiant Cymunedol. Mae'r Gronfa Gymunedol yn cytuno fod medru defnyddio gwasanaethau a chyfleusterau yn bwysig. Felly maent wedi cyhoeddi eu bod eisiau gwario hyd at 3 miliwn y flwyddyn ar Gludiant Cymunedol. Mae'r grantiau yn cychwyn o 500 a gallant dalu costau o 6 mis i 3 blynedd.