|
25 Mehefin 2001 Rhybudd gan y Gronfa GymunedolMae dosbarthwr grantiau mwyaf Cymru yn rhybuddio grwpiau y bydd llai o arian ar gael yn ystod y flwyddyn nesaf ac yn y dyfodol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf dyfarnodd Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol, sydd bellach yn gweithredu fel y Gronfa Gymunedol, 21.5 miliwn i grwpiau yng Nghymru. Daeth hwn 'r cyfanswm gwariant grant yn y wlad i 115 miliwn a dros 3,000 o grantiau wedi eu dyfarnu. Ar gyfer y flwyddyn gyfredol mae'r gyllideb wedi ei gosod ar 15 miliwn, a chaiff y cyfan ei ddosbarthu erbyn Mawrth 2002. Ar hyn o bryd mae dwy raglen grantiau, grantiau bychain (hyd at 5,000) a phrif grantiau (hyd at 300,000). Ni ddylai'r rhaglen grantiau bychain ddioddef gan fod 1.49 miliwn wedi ei glustnodi ar ei chyfer ac mae disgwyl na fydd angen gwrthod unrhyw gais i'r rhaglen grantiau bychain ar sail diffyg arian. Serch hynny, dan y Brif Raglen Grantiau mae'n debygol y byddwn yn gorfod gwrthod sawl cais gan fod y cyfanswm sydd ar gael wedi lleihau'n sylweddol. Gan ddefnyddio cyfartaledd maint ceisiadau llynedd fel arweiniad, mae'n debygol maI 65 grant newydd fyddwn ni yn eu hariannu. Sef cyfartaledd o dri i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Ym mis Gorffennaf byddwn yn lansio rhaglen newydd, symlach yng Nghymru - rhaglen grant ar gyfer prosiectau sy'n costio hyd at 60,000. Caiff yr arian sydd ar gael ar gyfer y rhaglen hon ei adolygu yn l y galw. Os caiff mwy o grantiau eu dyfarnu o dan y rhaglen hon bydd nifer y grantiau yn cynyddu ond bydd cyfanswm yr arian sydd ar gael i'w ddosbarthu yn aros yn sefydlog yn 15 miliwn. Eglurodd Roy Norris, Cyfarwyddwr y Gronfa Gymunedol yng Nghymru:"Rydym am i bobl ddeall fod y cyfanswm arian sydd ganddom yn lleihau a bod rhaid i benderfyniadau anodd gael eu gwneud. Bydd yn rhaid i ni barhau i wrthod ceisiadau gwych oherwydd diffyg arian. Y rhai sy'n fwyaf tebygol o ddioddef yw'r rheiny sy'n ceisio am arian i barhau a'u prosiect. Dyna pam mae'n fwy pwysig i grwpiau gynllunio i'r dyfodol a pheidio chodi eu gobeithion yn ormodol pan yn ceisio am arian gan y Gronfa Gymunedol. Mae'r gystadleuaeth yn ffyrnig am yr arian sydd ar gael. Mae'n debygol mai dim ond tua 18 dyfarniad datblygu gaiff ei wneud eleni." Mae'r Gronfa Gymunedol hefyd yn ymgynghori ar ei strategaeth i'r dyfodol ar gyfer y blynyddoedd 2002-2007 gan gynnwys y dewis o flaenoriaethau ar gyfer grantiau yn y dyfodol. Am ymholiadau y wasg cysylltwch Deian Creunant, Swyddog Cyfathrebu ar 14 Mehefin 2001 Prif grantiau yng Ngogledd CymruMae grwpiau ledled y wlad yn dathlu wedi i'r Gronfa Gymunedol yng Nghymru gyhoeddi'r grantiau diweddaraf dan ei Prif raglen grantiau. Bydd gwasanaethau Vision Enhancement Services Ltd. sydd wedi ei leoli yn Yr Wyddgrug ac sy'n gwasanaethu Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu ehangu, wedi iddynt dderbyn grant o 279,346 at y gost o uned symudol sy'n llawn o'r dyfeisiadau diweddaraf, saith gweithiwr rhan amser a hyfforddiant. Wedi ei sefydlu'n wreiddiol yn 1876, mae'r gymdeithas yn darparu cefnogaeth ymarferol i bobl o bob oed yn yr ardal, sydd nam ar eu golwg a hefyd yn anelu at wella ansawdd bywyd trwy hyrwyddo annibyniaeth a chodi ymwybyddiaeth gyffredinol o anghenion pobl sydd nam ar eu golwg. Mae canolfannau Vision Resource yn Yr Wyddgrug, Y Rhyl a Wrecsam yn darparu cefnogaeth a chyngor arbenigol yn ogystal chyfarpar wedi eu haddasu, fel cymhorthion gwybodaeth technoleg, oriorau a meicrodonau sy'n siarad, teleffonau sydd botymau mawr a pheiriannau cyflenwi diferion llygaid, i helpu pobl sydd nam ar eu golwg gyda bywyd dyddiol. Gyda chymorth yr uned symudol, bydd y gwasanaethau hyn o fewn cyrraedd i bobl mewn ardaloedd gwledig. Mae Prif Swyddog y gymdeithas, Wendy Wedmore yn dweud bod yr elusen wrth eu bodd 'r newyddion: "Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gyflawni anghenion pobl sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig, sydd efallai'n methu dod i'n Canolfannau Adnoddau. Bydd yr uned symudol yn medru mynd yn uniongyrchol i ganol y gymdeithas; i'r henoed a'r rhai syn byw mewn ardaloedd anghysbell, mae'n wasanaeth hynod werthfawr. "Fel cymdeithas, rydym yn cefnogi pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Rydym yn cynnig ymweliadau cartref a chymwynaswyr, gweithgareddau hamdden a chymdeithasol yn ogystal gwaith cefnogol, cymorth ymarferol, cyngor am fuddiannau, cefnogaeth a chyngor." Credir bod 1 o bob 6 o'r boblogaeth nam ar eu golwg ac ar hyn o bryd mae'r gymdeithas yn helpu 3,000 o bobl ledled Gogledd Cymru a Sir Gaer. Mewn mannau eraill o Ogledd Cymru, mae cymdeithasau eraill wedi elwa trwy'r grantiau diweddaraf. Ledled y wlad mae 18 cymdeithas yn rhannu cyfanswm o 2,285,104. Ar Ynys Mn mae Cymdeithas Hamdden Esceifiog yn derbyn 40,105 ar gyfer adeiladu cae chwarae ynghyd chyfarpar chwarae i blant lleol, a ledled Cymru mae Contact a Family yn cael 351,453 i ehangu'r ddarpariaeth o wybodaeth a chefnogaeth i deuluoedd sydd yn gofalu am blant ag anableddau, trwy benodi pum cynrychiolydd gwirfoddol lleol ychwanegol. Mae dros 115 miliwn wedi ei ddosbarthu i grwpiau gwirfoddol gan y Gronfa Gymunedol yng Nghymru (Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol gynt) i daclo tlodi ac i hyrwyddo gweithredu cymunedol. 14 Mehefin 2001 Prif grantiau i Dde CymruMae grwpiau ledled y wlad yn dathlu wedi i'r Gronfa Gymunedol yng Nghymru gyhoeddi'r grantiau diweddaraf dan ei Prif raglen grantiau. Ym Mro Morgannwg bydd grant o 258,198 yn gwneud gwahaniaeth mawr i Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Bro Morgannwg sydd wedi ei leoli yn Y Barri. Bydd y grant, dros dair blynedd, yn ariannu tair swydd llawn amser, yn cefnogi grwpiau'r sector gwirfoddol a magu cysylltiadau 'r gymuned fusnes. Meddai'r Cyfarwyddwr Dave Maggs: "Golyga hyn ein bod yn medru adeiladu ar y gwaith cynnar a wnaethpwyd ar y cynlluniau, ac ehangu ein gwasanaethau, yn arbennig yng Ngorllewin y Fro. Amcan 'Voluntary Link', un o brosiectau allweddol y Cyngor Gwirfoddol yw bod o fudd i gymdeithasau gwirfoddol bach a mawr trwy greu cyfarpar, darparu gwybodaeth a chyngor, hyrwyddo ymarferiad da rhwng grwpiau a hybu cydweithio rhwng grwpiau gwirfoddol, cymdeithasau gwirfoddol a chyrff cyfreithiol. "Mae ein cynllun allweddol arall, 'Business Link' yn fenter i ddatblygu cysylltiadau gwaith ac ewyllys da rhwng y sector gwirfoddol a busnesau lleol. Rydym hefyd yn annog pobl fusnes i gymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol a chymryd diddordeb gweithredol yn ein gwaith." Ar hyn o bryd mae 250 o gymdeithasau gwirfoddol yn aelodau o'r Cyngor Gwirfoddol ac mae'r nifer yn cynyddu. Gyda chymorth y gweithwyr newydd, mae'r gymdeithas yn anelu at gynyddu'r ffigwr yma 20 y cant dros y tair blynedd nesaf. Mewn mannau eraill o Dde Cymru, mae cymdeithasau eraill wedi elwa trwy'r grantiau diweddaraf. Ledled y wlad mae 18 cymdeithas yn rhannu cyfanswm o 2,285,104. Yng Nghaerffili bydd grant o 72,060 dros dair blynedd i Brosiect Cyffuriau ac Alcohol lslwyn yn darparu gwasanaeth gwybodaeth angenrheidiol ar gam-ddefnyddio cyffuriau ac alcohol yng Nghwm Rhymni Uchaf. Mewn man arall o'r sir, bydd Neuadd Bentref Llanfach yn cael ei adnewyddu diolch i grant o 89,444 am gyfarpar a ffioedd proffesiynol. Mae'r mudiad ieuenctid Urdd Gobaith Cymru yn derbyn 89,662 ar gyfer prosiect i gynyddu'r ddarpariaeth o gyfleusterau a chlybiau trwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifanc yn ardal Caerdydd. Bydd y prosiect yn gweithio gyda Menter Iaith Caerdydd a Chyngor Sir Caerdydd. Hefyd yn y brifddinas, mae Shortlife Housing (Cymru) Ltd. yn derbyn 164,918 i ddarparu cefnogaeth a chyngor i bobl sydd mewn llety dros dro neu mewn tenantiaeth am y tro cyntaf. Yn Abertawe, bydd Cynllun Ceir Cymunedol Ystalyfera yn medru prynu cerbyd newydd wedi ei addasu'n arbennig er mwyn cludo pobl i'r meddyg neu'r ysbyty diolch i grant o 15,200 ac yn Nhorfaen, mae Cymorth Ariannol i Bobl Anabl yn derbyn 26,350 i gyflogi codwr arian i wneud ceisiadau ariannu ar ran pobl anabl sydd methu gwneud ceisiadau eu hunain. Hefyd yn Nhorfaen, mae'r Partneriaeth Garnsychan , wedi ei leoli ym Mhontypwl yn cael 180,687 i gyflogi tri gweithiwr cymunedol ac ym Morgannwg Ganol mae Cyngor Cydraddoldeb Hiliol y Cymoedd yn derbyn 97,670 dros dair blynedd i gyflogi Swyddog Aflonyddwch Hiliol. Mae dros 115 miliwn wedi ei ddosbarthu i grwpiau gwirfoddol gan y Gronfa Gymunedol yng Nghymru (Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol gynt) i daclo tlodi ac i hyrwyddo gweithredu cymunedol. 14 Mehefin 2001 Grantiau bach i Ogledd CymruMae grwpiau ledled y wlad yn dathlu wedi i'r Gronfa Gymunedol yng Nghymru gyhoeddi'r grantiau diweddaraf dan ei Rhaglen grantiau bychain. Derbyniodd Cymdeithas Gwarchod Cymdogaeth Sir y Fflint , sy'n gweithio'n galed i feithrin cysylltiadau cymunedol cryfach ledled y sir, 1,410 i gynnal cynhadledd ar gyfer gwirfoddolwyr Gwarchod Cymdogaeth a Chynnal Dioddefwyr. Cynhaliwyd y gynhadledd yn ddiweddar ar y cyd Chefnogaeth Dioddefwyr Sir y Fflint, a daeth hanner cant o gynrychiolwyr yno. Yn ystod y gynhadledd siaradodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, Clive Wolfendal, am bwysigrwydd cefnogi pobl sy'n agored i niwed, gweithio ar y cyd a dinasyddiaeth dda. Mae Graham Harper, cadeirydd y Gymdeithas yn Sir y Fflint, wrth ei fodd o dderbyn y grant. Meddai: "Nid atal troseddu a lladron yn neidio dros waliau yw unig amcan Gwarchod Cymdogaeth; mae'r Gymdeithas hefyd yn gofalu am bobl, er enghraifft gwarchod yr henoed a'r bobl ifanc sydd o'n cwmpas. Rydym yn ceisio datblygu syniadau i geisio cynnwys pobl ifanc yn y Gymdeithas ac i recriwtio mwy o wirfoddolwyr yn gyffredinol a hybu pobl i gymeryd cyfrifoldeb am y pethau sy'n digwydd yn eu cymdogaeth a'u cymdeithas." Sefydlwyd Cymdeithas Gwarchod Cymdogaeth Sir y Fflint ym 1997 ac mae ganddynt 52 cyd-lynnydd ardal a 616 cyd-lynnydd stryd sy'n cwmpasu 9,588 o gartrefi. Mewn mannau eraill o Ogledd Cymru, mae cymdeithasau eraill wedi elwa trwy'r grantiau diweddaraf. Ledled y wlad mae 54 cymdeithas yn rhannu cyfanswm o 144,455. Un o bedwar o grwpiau i elwa yng Nghonwy yw Cymdeithas Gofal Maeth Conwy sy'n derbyn 750 i ddatblygu gwaith y grwp mewn ardaloedd gwledig o'r ardal ac yn Sir Ddinbych mae Cylch Meithrin Rhuthun yn cael 3,494 i wella'u cyfleusterau grwp chwarae. Yn Sir y Fflint mae pump grwp yn dathlu gan gynnwys Clwb Cinio Fflint a Bagillt , sy'n cael 775 i gynyddu'r nifer o weithgareddau cymdeithasol sy'n cael eu cynnig a Cylch Merched Mostyn sy'n cael 1,500 ar gyfer tripiau i grwp o henoed. Cymdeithas Merched Tseinaidd Gogledd Cymru yn darparu gwell gweithgareddau cymdeithasol ac addysgol ac mae Cylch Meithrin Gellilydan a Chylch Meithrin Gerlan yn derbyn 684 a 720 i wella eu hadnoddau. Ar Ynys Mn, mae Cylch Meithrin Llangristiolus yn derbyn 1,271 ar gyfer cyfarpar chwarae, byrddau a chadeiriau. Mae dros 115 miliwn wedi ei ddosbarthu i grwpiau gwirfoddol gan y Gronfa Gymunedol yng Nghymru (Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol gynt) i daclo tlodi ac i hyrwyddo gweithredu cymunedol. 14 Mehefin 2001 Grantiau bach i Dde CymruMae grwpiau ledled y wlad yn dathlu wedi i'r Gronfa Gymunedol yng Nghymru gyhoeddi'r grantiau diweddaraf dan y Rhaglen grantiau bychain. Bydd grant o 3,048 i Ganolfan galw-heibio defnyddwyr adnoddau'r Coed Duon yng Nghaerffili yn gwneud gwahaniaeth mawr. Wedi ei sefydlu yn1997 i helpu pobl sydd phroblemau iechyd meddwl a'u ffrindiau a'u teuluoedd, mae'r grwp yn darparu cefnogaeth a chyngor yn y ganolfan, bum diwrnod yr wythnos. Mae'n achubiaeth i lawer ohonynt. Mae'r ganolfan 'galw-heibio' yn agored i bawb ac mae nifer o bobl yn taro i mewn am gyngor ar iechyd personol a iechyd eu hanwyliaid. Mae'n le diogel sy'n galluogi pobl i rannu profiadau ac i helpu eu hunain. Mae taflenni gwybodaeth ar lawer o bynciau ar gael ac mae gwirfoddolwyr wrth law i wrando a chynnig cyngor. Mae yna, ar gyfartaledd, 400 ymweliad i'r Ganolfan pob mis ac mae'r Trysorydd, Helen Potter yn dweud bod y gwirfoddolwyr a'r defnyddwyr wedi eu bodd: "Mae'n holl waith yn wirfoddol a bydd yr arian yma yn ein galluogi i wneud y Ganolfan yn fwy effeithiol yn nhermau cyfarpar ac yn le mwy dymunol i'n ymwelwyr." Mewn mannau eraill o Dde Cymru, mae cymdeithasau eraill wedi elwa trwy'r grantiau diweddaraf. Ledled y wlad mae 54 cymdeithas yn rhannu cyfanswm o 144,455. Ym Mhen y bont ar Ogwr, mae Talbot Institute Group Revival Enterprise yn derbyn 2,000 i helpu'r grwp i edrych ar y posibilrwydd o brynu ac adnewyddu hen adeilad glowyr ar gyfer defnydd cymunedol ac yng Nghaerdydd mae Roath Park Golden Friendship Club yn cael 900 ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol i'r henoed. Bydd grant o 1,149 i Grwp Chwarae 'Stepping Stones' Raglan yn Sir Fynwy yn darparu hyfforddiant, cyfarpar a sied ardd ac yng Nghastell Nedd a Phort Talbot mae Pensiynwyr Sgiwen yn derbyn 4,990 i ddarparu gwyliau byr yn ystod yr haf. Yn Rhondda Cynon Taf mae tri grwp henoed yn elwa. Mae Cangen Henoed Penywaun yn cael 1,250 ar gyfer offer cegin a thripiau dydd, mae Grwp Henoed Penygawsi yn derbyn 2,395 ar gyfer tripiau bws, adloniant a phrydau ac mae Cymdeithas Henoed Pontygwaith yn derbyn 2,940 ar gyfer gweithgareddau adloniant ac offer swyddfa. Dau grwp sy'n elwa yn Abertawe yw Burma Star Association Western Area sy'n derbyn 1,532 i gynnal gwasanaeth coffa yn Aberhonddu ar gyfer aelodau'r grwp ac y Royal Welch Fusiliers Comrades Association (Cangen Abertawe) sy'n cael 5,000 i ddarparu aduniad catrawd yng Nghaer. Mae Sefydliad y Merched Saint Athan yn Nyffryn Morgannwg yn derbyn 4,032 ar gyfer cyrsiau hyfforddiant ac mae Cymdeithas Dynion wedi ymddeol Pontypwl yn cael 850 ar gyfer tripiau. Mae Cymorth Ariannol i Bobl Anabl sy'n gweithio ar draws Cymru gyfan ac sydd wedi ei lleoli yng Nghwmbran yn derbyn 3,576 ar gyfer offer cyfathrebu. Mae dros 115 miliwn wedi ei ddosbarthu i grwpiau gwirfoddol gan y Gronfa Gymunedol yng Nghymru (Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol gynt) i daclo tlodi ac i hyrwyddo gweithredu cymunedol. Nodiadau i olygyddion
|